Salmau 14
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
14 Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. 2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw. 3 Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 4 Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd. 5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn. 6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo. 7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.