1 Samuel 25
Beibl William Morgan
25 A bu farw Samuel; a holl Israel a ymgynullasant, ac a alarasant amdano ef, ac a’i claddasant ef yn ei dŷ yn Rama. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth i waered i anialwch Paran. 2 Ac yr oedd gŵr ym Maon, a’i gyfoeth yn Carmel; a’r gŵr oedd fawr iawn, ac iddo ef yr oedd tair mil o ddefaid, a mil o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel. 3 Ac enw y gŵr oedd Nabal; ac enw ei wraig Abigail: a’r wraig oedd yn dda ei deall, ac yn deg ei gwedd: a’r gŵr oedd galed, a drwg ei weithredoedd; a Chalebiad oedd efe.
4 A chlybu Dafydd yn yr anialwch, fod Nabal yn cneifio ei ddefaid. 5 A Dafydd a anfonodd ddeg o lanciau; a Dafydd a ddywedodd wrth y llanciau, Cerddwch i fyny i Carmel, ac ewch at Nabal, a chyferchwch well iddo yn fy enw i. 6 Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant, Caffech di heddwch, a’th dŷ heddwch, a’r hyn oll sydd eiddot ti heddwch. 7 Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid sydd gennyt a fuant gyda ni, ni wnaethom sarhad arnynt hwy, ac ni bu ddim yn eisiau iddynt, yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel. 8 Gofyn i’th lanciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, atolwg, yr hyn a ddelo i’th law, i’th weision, ac i’th fab Dafydd. 9 Ac wedi dyfod llanciau Dafydd, hwy a ddywedasant wrth Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd, ac a dawsant.
10 A Nabal a atebodd weision Dafydd, ac a ddywedodd, Pwy yw Dafydd? a phwy yw mab Jesse? llawer sydd o weision heddiw yn torri ymaith bob un oddi wrth ei feistr. 11 A gymeraf fi fy mara a’m dwfr, a’m cig a leddais i’m cneifwyr, a’u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent? 12 Felly llanciau Dafydd a droesant i’w ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny. 13 A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, Gwregyswch bob un ei gleddyf. Ac ymwregysodd pob un ei gleddyf: ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd, a dau gant a drigasant gyda’r dodrefn.
14 Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, Wele, Dafydd a anfonodd genhadau o’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni; ond efe a’u difenwodd hwynt. 15 A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes. 16 Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid. 17 Yn awr gan hynny gwybydd, ac ystyria beth a wnelych: canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dŷ ef: canys efe sydd fab i Belial, fel na ellir ymddiddan ag ef.
18 Yna Abigail a frysiodd, ac a gymerth ddau cant o fara, a dwy gostrelaid o win, a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod, a phum hobaid o gras ŷd, a chan swp o resin, a dau can teisen o ffigys, ac a’u gosododd ar asynnod. 19 A hi a ddywedodd wrth ei gweision, Cerddwch o’m blaen i; wele fi yn dyfod ar eich ôl: ond wrth Nabal ei gŵr nid ynganodd hi. 20 Ac a hi yn marchogaeth ar asyn, ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd; yna, wele Dafydd a’i wŷr yn dyfod i waered i’w herbyn; a hi a gyfarfu â hwynt. 21 A dywedasai Dafydd, Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu dim yn eisiau o’r hyn oll oedd ganddo ef: canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda. 22 Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd, ac ychwaneg, os gadawaf o’r hyn oll sydd ganddo ef, erbyn goleuni y bore, un gwryw. 23 A phan welodd Abigail Dafydd, hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn, ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd hyd lawr, 24 Ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, Arnaf fi, fy arglwydd, arnaf fi bydded yr anwiredd; a llefared dy wasanaethferch, atolwg, wrthyt, a gwrando eiriau dy lawforwyn. 25 Atolwg, na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nabal: canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntau; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gydag ef: a minnau dy wasanaethferch, ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist. 26 Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr Arglwydd yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i’r Arglwydd dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd, megis Nabal. 27 Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd, rhodder hi i’r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd. 28 A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i’m harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau. 29 Er cyfodi o ddyn i’th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r Arglwydd dy Dduw; ac enaid dy elynion a chwyrn deifi efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl. 30 A phan wnelo yr Arglwydd i’m harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat, a phan y’th osodo di yn flaenor ar Israel; 31 Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, neu ddial o’m harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn.
32 A dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i: 33 Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendigedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’m llaw fy hun. 34 Canys yn wir, fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw, yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un gwryw. 35 Yna y cymerodd Dafydd o’i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef; ac a ddywedodd wrthi hi, Dos i fyny mewn heddwch i’th dŷ: gwêl, mi a wrandewais ar dy lais, ac a dderbyniais dy wyneb.
36 Ac Abigail a ddaeth at Nabal; ac wele, yr oedd gwledd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwledd brenin: a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef; canys meddw iawn oedd efe: am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air, na bychan na mawr, nes goleuo y bore. 37 A’r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal, mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny; a’i galon ef a fu farw o’i fewn, ac efe a aeth fel carreg. 38 Ac ynghylch pen y deng niwrnod y trawodd yr Arglwydd Nabal, fel y bu efe farw.
39 A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr Arglwydd a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo. 40 A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddywedyd, Dafydd a’n hanfonodd ni atat ti, i’th gymryd di yn wraig iddo. 41 A hi a gyfododd, ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr; ac a ddywedodd, Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd. 42 Abigail hefyd a frysiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar asyn, a phump o’i llancesau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef. 43 A Dafydd a gymerth Ahinoam o Jesreel; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef.
44 A Saul a roddasai Michal ei ferch, gwraig Dafydd, i Phalti mab Lais, o Alim.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.