Galatiaid 6
Beibl William Morgan
6 Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau. 2 Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist. 3 Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun. 4 Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall. 5 Canys pob un a ddwg ei faich ei hun. 6 A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da. 7 Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe. 8 Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol. 9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. 10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd. 11 Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m llaw fy hun. 12 Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist. 13 Canys nid yw’r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw’r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi. 14 Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd. 15 Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd. 16 A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. 17 O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu. 18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.
At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.